ap wcw: Rwdlan app for iPhone and iPad
Developer: Golwg Cyf
First release : 03 May 2013
App size: 83.27 Mb
Dewch i ymuno â Rwdlan, y wrach fach ddireidus o Wlad y Rwla, am hwyl a sbri.
Dyma app newydd i blant bach yn seiliedig ar hynt a helynt cymeriad hoffus Rwdlan – un o gymeriadau amlycaf cylchgrawn ‘wcw a’i Ffrindiau’.
Mae’r app yn cynnwys cyfres o straeon byrion yn dilyn helyntion Rwdlan a’i ffrindiau, gyda chyfle i blant liwio’r lluniau ar y sgrin. Yn ogystal â bod yn hwyl, mae’r app yn un addysgiadol sy’n hybu llythrennedd, rhifedd ac adnabyddiaeth o liwiau.
Er mai app Cymraeg ydy hwn, gall rhieni di-Gymraeg ymuno â’r hwyl trwy danio cyfieithiad Saesneg o’r straeon.
Daw 5 stori yn rhad ac am ddim gyda’r app sylfaenol, a chyfle i brynu rhagor am bris rhesymol.
Cysylltwch â ni gydag unrhyw adborth am yr app yma: cymorth@golwg.com
Mae Rwdlan wedi ei ddatblygu ar y cyd gyda CEMAS (www.cemas.mobi)
--
Come join Rwdlan, the mischievous little witch from Gwlad y Rwla, for a hatful of fun.
This new app for young children is based on the adventures of likeable character, Rwdlan – one of the most popular characters from kids comic ‘wcw a’i Ffrindiau’.
The app contains a series of short stories following the adventures of Rwdlan and her friends, with the opportunity for children to colour the images on the screen. The app is a lot of fun, but also has a number of educational features boosting numeracy, literacy and colour recognition.
Although this is a Welsh language app, non Welsh speaking parents can join in with the fun by switching on the English translation for the stories.
5 stories come free with the app, with the opportunity to purchase further stories at a reasonable price.
Please contact us with any feedback about this app: cymorth@golwg.com
Rwdlan has been developed in collaboration with CEMAS (www.cemas.mobi)